Rhif y ddeiseb:P-06-1396

Teitl y ddeiseb:Cyflwyno trwydded e-sigaréts ar gyfer siopau e-sigaréts pwrpasol

Geiriad y ddeiseb: Gall diffyg hyfforddiant a thrwydded achosi i gynhyrchion anaddas a dyfeisiau anghyfreithlon gael eu gwerthu, a all fod yn beryglus a llesteirio'r siawns o roi’r gorau i ysmygu. Mae yna hefyd gynhyrchion fepio ffug ac anghyfreithlon ar y farchnad nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau'r DU, sy'n berygl i'r cyhoedd. Dylai mangreoedd trwyddedig sydd wedi'u hawdurdodi i werthu e-sigaréts helpu i fynd i’r afael â hyn gan eu bod yn prynu'n uniongyrchol gan gyflenwyr trwyddedig, felly ni fydd y cynhyrchion y maent yn eu gwerthu yn rhai ffug neu’n cael eu prynu'n rhad ar y farchnad ddu i wneud elw cyflym.

Rydyn ni am i gynhyrchion fepio gael eu gwerthu mewn siopau trwyddedig penodol sydd â staff hyfforddedig sy'n arbenigo mewn cynhyrchion o’r fath a phob agwedd arall ar fêpio, yn ogystal â Therapi Disodli Nicotin (NRT), gan gynnwys gwybodaeth am wahanol gynhyrchion, i'w galluogi i weithio gyda'r cyhoedd i gynyddu cyfraddau rhoi’r gorau i ysmygu yn llwyddiannus.

Ar hyn o bryd, mae siopau e-sigaréts yn cydymffurfio â gofynion Safonau Masnach i’w galluogi i fasnachu. Mae llawer o staff yn ymarferwyr achrededig y Ganolfan Genedlaethol Rhoi’r Gorau i Ysmygu a Hyfforddiant, sy’n golygu eu bod yn gallu rhannu gwybodaeth ymarferol a chyngor am therapi disodli nicotin.

Mae rhieni'n anhapus gan fod rhai manwerthwyr yn gwerthu e-sigaréts i bobl ifanc o dan 18 oed.  Mae hyn yn effeithio’n andwyol ar y diwydiant e-sigaréts wrth iddo weithio tuag at Gymru ddi-fwg. Mae defnyddio e-sigaréts yn gam tuag at ysmygu, felly nid yw'n rhywbeth y dylai pobl ifanc fod yn ei wneud.

Gyda chyfraddau llwyddiant mor uchel yn y diwydiant e-sigaréts o ran helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, mae angen cydnabod y diwydiant ac mae’n rhaid cyflwyno trwydded am resymau diogelwch ac i sicrhau bod e-sigaréts yn cael eu gwerthu'n gyfrifol.

                                      


1.        Cefndir

Mae fêps neu e-sigaréts yn ddyfeisiau a bwerir gan fatri sy'n caniatáu i nicotin gael ei fewnanadlu drwy anwedd yn hytrach na mwg (gelwir hyn yn fepio). Mae cynhyrchion fepio yn cynnwys e-sigaréts ac e-hylifau yn bennaf.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ofynion trwyddedu ar gyfer manwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion fepio neu gynhyrchion tybaco eraill yng Nghymru a Lloegr.

Fodd bynnag, rhaid i fanwerthwyr fêps gydymffurfio â rheolau sy’n atal gwerthu fêps anghyfreithlon, yn cyfyngu ar hyrwyddo cynhyrchion fepio, ac yn atal gwerthu fêps naill ai’n uniongyrchol neu drwy ddirprwy i bobl o dan 18 oed.

Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Rhoi'r Gorau i Ysmygu a Hyfforddiant (NCSCT) yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant i gefnogi ymyriadau rhoi'r gorau i ysmygu, gan gynnwys canllawiau ar gynhyrchion fepio.

1.1.            Cynhyrchion fepio anghyfreithlon

Mae Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016 (TRPRs) yn pennu safonau cynnyrch ar gyfer fêps nicotin ledled y DU. Nid yw'r safonau hyn yn gymwys i fêps nad ydynt yn cynnwys nicotin: mae’r rheini’n cael eu cwmpasu gan y Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005 (GPSRs).

Mae fêps anghyfreithlon, neu fêps nad ydynt yn cydymffurfio, yn gynhyrchion fepio nad ydynt yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y TRPRs, a/neu yr ystyrir eu bod yn anniogel o dan y GPSRs. Gall fêps anghyfreithlon beri risg i iechyd, oherwydd crynodiadau uwch o nicotin neu bresenoldeb cynhwysion gwaharddedig. Canfuwyd bod rhai fêps yn cynnwys symiau o fetelau trymion a allai fod yn niweidiol.

Ym mis Ionawr 2024, adroddodd y BBC fod dros 4.5 miliwn o fêps anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu ar y ffin yn y DU rhwng mis Ionawr a mis Hydref yn 2023, sy’n fwy na phedair gwaith y nifer a atafaelwyd yn y flwyddyn flaenorol.

 

1.2.          Rôl cynhyrchion fepio mewn rhoi'r gorau i ysmygu

Gall fêps fod yn effeithiol wrth gefnogi pobl i ysmygu llai a rhoi'r gorau i ysmygu. Canfu’r diweddariad diweddaraf i adolygiad Cochrane fod fêps nicotin yn fwy effeithiol wrth helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu na therapi disodli nicotin, a gallant fod yn well na chymorth ymddygiadol neu ddim cymorth o gwbl.

Yn ôl gwefan y GIG, fepio yw un o'r arfau mwyaf effeithiol ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu. Mae adolygiad gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn nodi bod cynnyrch fepio sy’n rhan o’r gwasanaethau mae pobl yn eu defnyddio i geisio rhoi’r gorau i ysmygu’n gysylltiedig â’r cyfraddau llwyddiant uchaf.

Fodd bynnag, nododd yr adolygiad hefyd nad yw fepio’n dod heb risgiau i iechyd, oherwydd y posibilrwydd y bydd defnyddiwr yn dod i gysylltiad â gwenwynyddion a natur gaethiwus nicotin. Mae diffyg tystiolaeth hefyd ynghylch yr effeithiau hirdymor posibl ar iechyd. Gan hynny, nid yw fepio’n cael ei argymell ar gyfer pobl nad ydynt yn ysmygu.

Mae hefyd bryderon cynyddol ynghylch nifer y plant a phobl ifanc sy’n dechrau fepio a’r risgiau i’w hiechyd nhw. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell y dylid annog plant a phobl ifanc nad ydynt erioed wedi ysmygu i beidio â fepio.

1.3.          Galwadau am gynllun trwyddedu

Yn 2022, argymhellodd Adolygiad Khan i bolisïau ar gyfer dod yn ddi-fwg erbyn 2030 y dylid cyflwyno trwydded i fanwerthwyr unrhyw gynnyrch tybaco, i gyfyngu ar y mannau lle mae tybaco ar gael. Awgrymodd y dylai manwerthwyr sy’n troseddu golli eu trwydded tybaco ac y dylai fod gan awdurdodau lleol bŵer i wneud meini prawf iechyd cyhoeddus ynghlwm wrth y drwydded (e.e. gwahardd gwerthu ger ysgolion).

Mae'r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig wedi galw o’r blaen am gynllun cofrestru gorfodol ar gyfer manwerthwyr tybaco a chynhyrchion fepio nicotin, gyda'r nod o fynd i'r afael â gwerthu fêps nad ydynt yn cydymffurfio ac atal gwerthu anghyfreithlon i blant a phobl ifanc.

Mae’r UK Vaping Industry Association hefyd wedi cynnig cyflwyno cynllun ar gyfer trwyddedu manwerthwyr a dosbarthwyr fêps, i fynd i’r afael â masnachwyr twyllodrus sy’n gwerthu fêps yn anghyfreithlon neu i bobl dan oed. Mae corff y diwydiant yn bwriadu cyhoeddi manylion cynllun arfaethedig ym mis Chwefror 2024.

1.4.          Camau a gymerir mewn gwledydd eraill

Yn yr Alban, mae'n ofynnol i fanwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion fepio nicotin gofrestru ar Gofrestr Manwerthwyr Tybaco yr Alban. Mae Deddf Iechyd (Tybaco, Nicotin etc. a Gofal) (yr Alban) 2016 yn ei gwneud yn drosedd i werthu fêps o fangre heb ei chofrestru.

Yn Iwerddon, pasiwyd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cynhyrchion Tybaco a Chynhyrchion Mewnanadlu Nicotin) 2023 yn ddiweddar. Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer trwyddedu manwerthwyr sy'n gwerthu cynhyrchion fepio nicotin neu gynhyrchion tybaco, ac ar gyfer sefydlu a chynnal cofrestr o drwyddedau.

Gall manwerthwyr yn Seland Newydd wneud cais i fod yn fanwerthwyr fepio arbenigol, sy'n golygu eu bod yn cael eu hesemptio rhag rhai cyfyngiadau (er enghraifft, ynghylch hyrwyddo cynhyrchion a gwerthu rhai cynhyrchion fepio â blas) sy'n cael eu gosod ar fanwerthwyr eraill sy'n gwerthu cynhyrchion fepio.

 

2.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ym mis Hydref 2023, cynhaliwyd dadl fer yn y Senedd ar effaith fepio ledled Cymru. Trafododd yr Aelodau’r broblem o werthu fêps i rai dan oed a gwerthu fêps anghyfreithlon. Yn ei hymateb i’r ddadl, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

Er fy mod am weithredu'n gyflym ar dybaco ac e-sigaréts, rwyf am weithio'n agos â gwledydd eraill y DU fel ein bod yn dyblu ein hymdrechion i fynd i'r afael â marchnadoedd anghyfreithlon a'r holl droseddau cysylltiedig a ddaw yn sgil hyn.  Mae mewnforio a gwerthu cynhyrchion peryglus didrwydded yn anghyfreithlon hefyd yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono… Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr safonau masnach o bob rhan o awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gorfodaeth a chamau pellach i atafaelu cynhyrchion peryglus anghyfreithlon.

Mewn cwestiwn ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2023, gofynnodd Rhys ab Owen ynghylch maint y farchnad fepio anghyfreithlon yng Nghymru a’r cyllid a ddyrannwyd i Safonau Masnach Cymru i fynd i’r afael â hi. Ymatebodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

‘I have made available a grant of £145,250 in this financial year to aid efforts to tackle illegal vapes in Wales. he level of funding was informed by discussions with Trading Standards Wales.  The funding will be used to seize, store and analyse illegal vapes, and to support the training and development of enforcement staff in every Local Authority in the country. his will allow us to continue to build a picture of the extent and nature of illegal vape sales in Wales.

 

3.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

3.1.          Deddfwriaeth Iechyd y Cyhoedd

Mae'r Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn cynnwys darpariaethau y caniateir eu defnyddio fel rhan o’i fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoli tybaco yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu cofrestr o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin. Amlinellir y darpariaethau hyn ym Mhennod 2 o'r Ddeddf.

Yn 2015, ceisiodd Llywodraeth Cymru wahardd y defnydd o e-sigaréts mewn mannau caeedig a chyhoeddus yn ei chynigion cychwynnol ar gyfer y Ddeddf. Fodd bynnag, methodd ag ennill digon o gefnogaeth a phasiwyd y ddeddfwriaeth heb gynnwys y gwaharddiad.

3.2.        Cyllid i fynd i'r afael â fepio anghyfreithlon

Ym mis Rhagfyr 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn darparu cyllid i Safonau Masnach Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r farchnad fepio anghyfreithlon. Dywedodd y byddai’r cyllid yn cefnogi gweithgareddau Safonau Masnach Cymru, megis:

§    ymgymryd â phryniant prawf

§    defnyddio cŵn i adnabod manwerthwyr twyllodrus

§    casglu gwybodaeth

§    cynnal gwiriadau mewn porthladdoedd i sicrhau bod cynhyrchion sy'n anghyfreithlon ac o bosibl yn beryglus yn cael eu tynnu oddi ar y silff yn gyflym ac yn effeithiol

Yn ei Chynllun Cyflawni ar Reoli Tybaco 2022-24, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r dulliau gorfodi sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer rheoli tybaco er mwy deall a oes angen eu cryfhau, ac ymhle.

 

3.3.        Canlyniad yr ymgynghoriad pedair gwlad

Ar 29 Ionawr 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cyflwyno deddfwriaeth i weithredu gwaharddiad ar fêps untro, a hynny ar y cyd â Llywodraethau’r Alban a’r DU.

Mae hefyd yn cefnogi mesurau eraill sy’n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU yn sgil ymgynghoriad pedair gwlad. Mae’r rhain yn cynnwys:

§  Codi bob blwyddyn yr oedran gwerthu ar gyfer cynhyrchion tybaco o flwyddyn (sy’n golygu na chaiff cynhyrchion tybaco eu gwerthu i neb a aned ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl hynny),

§  Cyflwyno pwerau gwneud rheoliadau i gyfyngu ar flasau, man gwerthu a phecynwaith ar gyfer cynhyrchion fepio (yn cynnwys nicotin neu beidio) yn ogystal â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr; a

§  Chyflwyno pwerau gorfodi newydd i Gymru a Lloegr ar gyfer achosion o dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer tybaco a fêps (yn cynnwys nicotin neu beidio) a nwyddau defnyddwyr eraill sy’n cynnwys nicotin.

3.4.        Yr ymateb i'r ddeiseb

Yn ei hymateb, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

‘Rwyf wedi ymrwymo i roi pob mesur angenrheidiol ar waith i fynd i'r afael ag effeithiau niweidiol tybaco ar iechyd yng Nghymru ac i wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl ifanc rhag defnyddio fêps.’

Dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar weithio gyda gwledydd eraill y DU i greu cenhedlaeth ddi-fwg, gan gynnwys cefnogi gwaith ar y Bil Tybaco a Fepio a fydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU, a deddfu i weithredu gwaharddiad ar fêps tafladwy.

Nododd y Gweinidog yr argymhelliad yn Adolygiad Khan i gyflwyno trwydded tybaco ar gyfer manwerthwyr, a dywedodd fod trwyddedu ar gyfer manwerthwyr tybaco a fêps yn faes y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i chwilio i mewn iddo, gan nodi:

‘Er fy mod o'r farn bod y Bil Tybaco a Fêps yn rhoi cyfle unwaith mewn cenhedlaeth inni ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag niwed yn sgil ysmygu ac atal fêps rhag apelio at blant a phobl ifanc a bod ar gael iddynt, rwyf wedi ymrwymo i fynd gam ymhellach yng Nghymru pe bai'r dystiolaeth yn cefnogi hynny.  Bydd fy swyddogion felly yn parhau i ystyried yr opsiwn o gynllun i gyflwyno trwyddedau ar gyfer manwerthwyr tybaco a fêps.'

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.